Nick Ramsay, AC

Cadeirydd  

Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

 

 

Ein Cyf: AG/JM/SB

 

21 Tachwedd 2016

 

Annwyl Mr Ramsay AC

 

YMATEB I’R PWYNTIAU GWEITHREDU AR ÔL YMDDANGOS YN SESIWN Y PWYLLGOR CYFRIFON CYHOEDDUS AR 7 TACHWEDD 2016

 

Cyfeiriaf at fy ymddangosiad diweddar gerbron y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus pan gytunais i roi rhagor o wybodaeth i chi ac i'r pwyllgor ynghylch y canlynol:

 

·         disgrifiad o'r cyflyrau clinigol a gaiff eu cynnwys yn y categorïau coch, ambr a gwyrdd o ran yr amseroedd ymateb i alwadau am ambiwlans;

·         rhagor o fanylion am yr amseroedd ymateb i alwadau ambr, ac am y modd y mae Llywodraeth Cymru yn monitro’r amseroedd hyn;

·         diweddariad ar yr ymchwil i sut y mae byrddau iechyd yn rheoli’r gwasanaeth meddygon teulu y tu allan i oriau.

 

Y cyflyrau clinigol a gaiff eu cynnwys yn y categorïau coch, ambr a gwyrdd o ran amseroedd ymateb i alwadau am ambiwlans

 

Galwadau yn y categori coch yw'r gyfran isaf o'r galwadau, ond dyma'r rhai pwysicaf o ran yr amser y mae’n ei gymryd i’r gwasanaeth ambiwlans ymateb iddynt, gan y gall bywydau pobl fod yn y fantol mewn mater o funudau ac eiliadau. Un o brif amcanion treialu'r model clinigol yw gwella’r ymateb i alwadau o’r fath er mwyn achub bywydau.Mae enghreifftiau o alwadau a fyddai’n cael eu rhoi yn y categori Coch yn cynnwys cleifion sy’n anymwybodol neu'n cael ataliad ar y galon, cleifion y mae eu statws anadlu’n ansicr neu sydd â phatrwm anadlu anarferol, achosion o grogi/llindagu/mygu/boddi, a chlwyfau dwfn i ganol y corff. Yr amser canolrifol ar gyfer ymateb i alwadau o’r fath ym mis Medi oedd 4 munud a 38 eiliad.

 

Galwadau ambr yw'r gyfran uchaf o'r galwadau y bydd y gwasanaeth ambiwlans yn eu cael, ac fe'u hystyrir yn rhai difrifol ond yn rhai lle nad yw bywydau pobl yn y fantol ar yr ennyd honno. Yn yr achosion hyn, bydd yn aml yn fwy buddiol i gleifion gael yr ymateb mwyaf priodol yn hytrach na'r ymateb cyflymaf.Caiff cyflyrau fel poen yn y frest, strôc a chonfylsiynau/ffitiau eu categoreiddio fel galwadau ambr. Yr amser ymateb canolrifol i alwadau o’r fath ym mis Medi oedd 13 munud a 23 eiliad.

              

Ni chaiff galwadau yn y categori gwyrdd eu hystyried yn rhai difrifol nac yn rhai sy’n rhoi bywydau pobl yn y fantol. Caiff cyflyrau fel pigyn clust neu fân anafiadau eu categoreiddio fel galwadau gwyrdd. Mae’n aml yn addas rheoli galwadau gwyrdd drwy frysbennu eilaidd dros y ffôn.

 

Er mwyn bod yn agored, ac fel un o ymrwymiadau'r model ymateb clinigol, mae’r gwasanaeth ambiwlans wedi datblygu matrics ar gyfer ymateb clinigol sy'n helpu staff sy'n delio â’r galwadau i ddewis yr ymateb cywir i bob math o alwad.

 

Yr amseroedd ymateb i alwadau ambr, a'r modd y mae Llywodraeth Cymru yn monitro’r amseroedd hyn

 

Caiff gwybodaeth ystadegol am amseroedd ymateb ambiwlansys ei chyhoeddi’n rheolaidd ar wefan StatsCymru: https://statscymru.llyw.cymru/Catalogue/Health-and-Social-Care/NHS-Performance/Ambulance-Services

 

Mae’r wybodaeth sydd ar gael yn cynnwys:

·         Galwadau ambiwlansys mewn argyfwng ac ymatebion i alwadau coch, yn ôl Bwrdd Iechyd Lleol a'r mis

·         Ymatebion mewn argyfwng: perfformiad fesul munud ar gyfer galwadau coch yn ôl Bwrdd Iechyd Lleol a’r mis

·         Ymatebion mewn argyfwng: perfformiad fesul munud ar gyfer galwadau ambr yn ôl Bwrdd Iechyd Lleol a’r mis

·         Gwasanaethau ambiwlans: yr amseroedd ymateb canolrifol (munudau ac eiliadau)

Mae’r Cyd-bwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys hefyd yn cyhoeddi dangosyddion ansawdd ar gyfer y gwasanaeth ambiwlans ar ei wefan: http://www.wales.nhs.uk/easc/ambulance-quality-indicators

 

Mae'r wybodaeth sydd ar gael yn cynnwys dulliau o fesur pob cam yn ystod y llwybr gofal ambiwlans, yn ogystal â dangosyddion clinigol ar gyfer ataliad ar y galon, strôc, trawiad ar y galon (STEMI), torri clun (asgwrn y morddwyd), ffitiau gwres, sepsis a hypoglycaemia.

 

Cynhelir cyfarfodydd rheolaidd gydag Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a’r byrddau iechyd i fesur sut y maent yn perfformio yn erbyn y targed cenedlaethol. Mae’r canlyniadau hyn, sy’n edrych ar ansawdd y gwasanaeth, yn rhan hollbwysig o’r gwaith gwerthuso cyffredinol.

 

Sut y mae byrddau iechyd yn rheoli’r gwasanaeth meddygon teulu y tu allan i oriau

 

Gweler Atodiad A sy’n rhoi ymateb manwl ar gyfer Cymru gyfan.

 

 

Yn gywir

 

AG SIGNATURE

Dr Andrew Goodall


Atodiad A

 

Sut y mae byrddau iechyd yn rheoli’r gwasanaeth meddygon teulu y tu allan i oriau

 

Cefndir

 

Gwasanaeth y tu allan i oriau yw gwasanaeth rhwng 6.30pm a 8am o ddydd Llun i ddydd Iau, a rhwng 6.30pm ar ddydd Gwener ac 8am ar ddydd Llun, yn ogystal ag ar wyliau banc. Yn ystod yr oriau hyn, nid oes gofyn i feddygon teulu roi gwasanaeth o dan eu contract ar gyfer gwasanaethau meddygol cyffredinol (a sefydlwyd yn 2004). Mae gwasanaeth meddygon teulu y tu allan i oriau yn cael ei roi dros yr oriau hyn, a’r bwrdd iechyd lleol sy’n gyfrifol am reoli’r gwasanaeth hwn. Er mwyn sicrhau bod digon o feddygon teulu ar gael i ddarparu’r gwasanaeth, mae'r byrddau iechyd lleol yn defnyddio model cynllunio sy'n seiliedig ar alw a chapasiti, gan geisio sicrhau bod ganddynt ddigon o feddygon ar gael i ateb y galw pan fydd hwnnw ar ei fwyaf, sef yn gyffredinol yn gynnar gyda'r nos, yn enwedig wrth i'r gwasanaeth gychwyn am 6.30pm.  

 

Er y bydd cyfnodau pan fydd y gwasanaeth meddygon teulu y tu allan i oriau o dan bwysau, mae hyn yn cael ei reoli er mwyn i gleifion allu cael gafael ar arbenigedd clinigol.

 

Dros y 12 mis diwethaf, dim ond unwaith y mae’r gwasanaeth y tu allan i oriau wedi bod ar gau drwy ardal gyfan Bwrdd Iechyd, a dim ond nifer bach o safleoedd sydd wedi bod ar gau, fel y gwelir yn y tabl isod.

 

Bwrdd Iechyd

Safle wedi bod ar gau

Wedi bod ar gau ar draws y Bwrdd Iechyd

Caerdydd a’r Fro

Do (gweler y golofn nesaf)

1 achlysur (dros nos ar benwythnos)*

Aneurin Bevan

Do, wedi cynllunio i fod ar gau – Nevill Hall (peilot) gyda gwasanaethau eraill ar gael yn y Bwrdd Iechyd

Naddo

Abertawe Bro Morgannwg

Do – ar 9 achlysur ond gyda gwasanaethau eraill ar gael yn y Bwrdd Iechyd, ac mae’r gwasanaeth 111 bellach ar gael i helpu

Naddo

Betsi Cadwaladr

Naddo

Naddo

Cwm Taf

Naddo

Naddo

Hywel Dda

Do – ar 2 achlysur ond gyda gwasanaethau eraill ar gael yn y Bwrdd Iechyd

Naddo

Powys

Do, ar 1 achlysur ond gyda gwasanaeth arall ar gael

Naddo

 

* Mwy o wybodaeth am y sefyllfa a adroddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Bu un digwyddiad lle bu’r gwasanaeth y tu allan i oriau ar gau am gyfanswm o 18 ½ awr gyda’r nos ar benwythnos 13/14 Awst, a hynny gan nad oedd digon o feddygon teulu ar gael. Ni fu unrhyw ddigwyddiadau clinigol yn ystod y cyfnod hwn ac roedd atebwyr galwadau’r gwasanaeth y tu allan i oriau ar gael drwy’r penwythnos i reoli’r gweithwyr brysbennu ac ymweliadau cartref.

 

Aeth y Bwrdd Iechyd Prifysgol ati i liniaru a lleihau effaith cau’r gwasanaeth am gyfnodau byr ar gleifion drwy wneud y canlynol: cynnal trafodaethau â gwasanaethau eraill y GIG er mwyn llenwi shifftiau; cytuno ar bethau ymlaen llaw ag Adrannau Brys y Bwrdd Iechyd/Galw Iechyd Cymru a Byrddau Iechyd eraill; a sicrhau bod uwch reolwr ar alwad yn bersonol er mwyn i'r gwasanaethau gofal sylfaenol gyd-drafod ag adrannau eraill yn y Bwrdd Iechyd.

 

Mae’n wir y bu cynnydd yn y defnydd o Galw Iechyd Cymru, ac roedd modd cyfeirio cleifion at y gwasanaethau priodol. Mae nifer o gamau wedi’u cymryd ers hynny, gan gynnwys mabwysiadu cynllun uwchgyfeirio manwl, mwy o ddadansoddi'r galw a’r capasiti, ac nid yw’r sefyllfa wedi codi drachefn.

 

Y gwasanaeth 111 – ysgogi newid yn y gwasanaeth

 

Mae’r gwasanaeth 111 yn rhoi cyfle gwirioneddol i gydlynu a rheoli’n well y galw am ofal heb ei drefnu yn y GIG yng Nghymru, yn diwallu anghenion cleifion yn eu cymunedau eu hunain, yn osgoi derbyniadau i ysbytai heb fod angen, ac yn lleihau'r galw am wasanaethau ysbyty acíwt. Yn y dyfodol, y bwriad yw cyflwyno’r gwasanaeth 111 ledled Cymru. Bydd hyn yn gwella’r ffordd y mae’r gwasanaeth meddygon teulu y tu allan i oriau yn cael ei reoli ac yn galluogi cleifion i elwa o allu cysylltu ag un rhif ffôn rhad ac am ddim, a hwnnw'n hawdd ei gofio.

 

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg wedi bod yn wasanaeth ‘Braenaru’ y GIG i'r gwasanaeth 111 yng Nghymru. Lansiwyd y gwasanaeth hwn ym mis Hydref ac mae’r rhif 111 bellach yn cael ei ddefnyddio ledled ardal y Bwrdd Iechyd.Dyma rai o'r penawdau:

·         Atebwyd bron i 10,500 o alwadau hyd at ganol mis Tachwedd, ar ôl lansio’r gwasanaeth yn raddol.

·         Mae’r system TG integredig yn cael ei defnyddio'n llawn. Mae’r staff bellach wedi arfer â phatrwm newydd y galwadau a disgwylir y bydd yr amser y mae’n ei gymryd i ddelio â galwadau yn lleihau dros y 6-8 wythnos nesaf.

·         Mae staff newydd wedi’u recriwtio i ateb galwadau ac i sicrhau bod y gwasanaeth yn gallu ymdopi â’r pwysau dros y gaeaf.

·         Yr amser canolrifol yr oedd yn ei gymryd i ateb galwadau ym mis Hydref oedd 85 eiliad. 

·         Cafwyd sylw cadarnhaol ar y cyfryngau cymdeithasol ac mewn adroddiadau yn y wasg leol.

·         Cafwyd adroddiad cadarnhaol gan y Pwyllgor Meddygol Lleol heb unrhyw adroddiadau am anfodlonrwydd ymhlith cleifion.

·         Cafwyd adroddiadau cadarnhaol gan ymgynghorwyr yn yr Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys fod yr achosion sydd wedi’u cyfeirio atynt drwy 111 wedi bod yn briodol.

·         Nid oes cwynion ffurfiol wedi’u gwneud na digwyddiadau niweidiol wedi codi.

 

Y gwelliannau sydd ar y gweill

 

Mae Swyddfa Archwilio Cymru wrthi’n cynnal ymgynghoriad o wasanaethau y tu allan i oriau drwy Gymru, a bydd Uned Gyflawni'r GIG yn ceisio cynorthwyo'r GIG i roi'r argymhellion o'r adroddiad hwn ar waith yn gynnar yn 2017.

 

Bydd Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn cael ei sefydlu i edrych ar y gwasanaeth meddygon teulu y tu allan i oriau drwy Gymru gyfan. John Palmer, Cyfarwyddwr Gweithredol Gofal Sylfaenol Cwm Taf, a fydd yn cadeirio’r Grŵp, a’r nod fydd sicrhau bod y gwasanaeth yn gadarn ac y bydd rhoi'r gwasanaeth 111 ar waith yn fodd o ymateb mewn ffordd integredig a mwy sefydlog yn y dyfodol.